Mae ein Grantiau Teithio i Weithwyr yn y Celfyddydau - Cymru/Tsiena 2026 yn helpu sectorau celfyddydau a diwylliant y DU i feithrin cysylltiadau rhyngwladol ystyrlon â sefydliadau diwylliannol yn Tsieina.
Bydd y rhaglen yn:
- galluogi sefydliadau celfyddydol yng Nghymru i feithrin partneriaethau rhyngwladol newydd yn Tsieina,
- dyfnhau eu dealltwriaeth o dirlun diwylliannol deinamig Tsieina, a
- hybu mentrau cydweithio a fydd yn sicrhau canlyniadau diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd cadarnhaol.
Bydd y grantiau hyn yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr o sefydliadau celfyddydol yng Nghymru deithio i Tsieina yn 2026. Bydd yr ymweliadau yma'n helpu i feithrin cysylltiadau â phartneriaid yn Tsieina, dysgu mwy am dirlun diwylliannol y wlad a gosod seiliau ar gyfer mentrau cydweithio yn y dyfodol. Mae'r cyfnewid yma'n cyfrannu at ddatblygiad diwylliannol hirdymor yn ogystal â chreu cyfleoedd i ddysgu ar y cyd a chael effaith yng Nghymru a Tsieina.
Mae'r fenter yn rhan o'n rhaglen waith ehangach i hybu a chefnogi ymgysylltu rhyngwladol pwrpasol gan weithwyr creadigol proffesiynol yn y DU.
China Now: Cefnogi sefydliadau diwylliannol y DU
Mae tirlun diwylliannol a chelfyddydol Tsieina'n parhau i ddatblygu'n gyflym. Yn 2026, byddwn yn rhannu cyfres o erthyglau, cyfweliadau ac adnoddau a fydd yn rhannu'r wybodaeth sydd ei angen ar sefydliadau o'r DU i weithio yn Tsieina.
Mae adnodd China Now wedi cael ei lunio ar gyfer sector diwylliannol y DU. Bydd yn rhannu gwybodaeth am ddatblygiadau diweddaraf y sector diwylliannol yn Tsieina, rhannu enghreifftiau o arfer gorau drwy dynnu sylw at fentrau cydweithio sydd ar waith yn barod, cynnig amgrymiadau am sut i lywio'ch ffordd drwy dirlun diwylliannol Tsieina a chasglu gwybodaeth a chanlyniadau ymchwil i gefnogi ymgysylltiad diwylliannol y DU yn Tsieina.
Cofrestrwch yma ar gyfer China Now
Cwrdd â derbynwyr grantiau 2026
Common/Wealth
Mae Common/Wealth yn gwmni theatr safle-benodol gwobrwyedig wedi'i leoli yng Nghaerdydd a Bradford. Mae Common/Wealth yn creu theatr ddogfen o safon uchel a digwyddiadau cyhoeddus arbrofol sy'n gwthio ffiniau. Yn aml maen nhw'n creu gwaith ar y cyd â phobl leol a'i gyflwyno yng nghalon cymunedau: mewn tŷ, campfa neu faes parcio - mannau mae pobl sydd ddim yn arfer mynd i'r theatr efallai'n fwy tebygol o ddod iddynt. Maen nhw'n taclo testunau a themâu sy'n berthnasol i bawb gan berfformio gwaith yn lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Cwmni Hijinx Theatre
Hijinx yw prif gwmni theatr gynhwysol Cymru sy'n creu gwaith beiddgar a chyfareddol gydag artistiaid ag anableddau dysgu ac awtistiaeth. Mae gan Hijinx weledigaeth am fyd lle mae pobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn cael eu grymuso a'u gwerthfawrogi, lle mae ganddynt fynediad teg i gyfleoedd - fel artistiaid ac yn eu bywydau bob dydd. Maen nhw wedi teithio cynhyrchiadau nodedig ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol, gan feithrin artistiaid a'u helpu i ddatblygu gyrfaoedd proffesiynol cynaliadwy yn y celfyddydau. Law yn llaw â pherfformio, maen nhw'n meithrin cymuned, hyder a sgiliau bywyd. Mae gwaith y cwmni'n cael ei lywio gan ddynoliaeth, gonestrwydd, cynhwysiant a rhagoriaeth. Maen nhw'n dathlu gwahaniaeth ac yn defnyddio llawenydd fel arf pwerus ar gyfer creadigrwydd, cyfiawnder a newid.
Gŵyl Ryngwladol Serameg Aberystwyth
Mae Gŵyl Ryngwladol Serameg Aberystwyth yn cael ei chynnal bob yn ail flwyddyn. Cafodd ei chynnal am y tro cyntaf yn 1987. Mae'r ŵyl yn dod ag artistiaid serameg o'r DU a ledled y byd i Gymru i arddangos y gorau o arfer serameg gyfoes drwy ddangosiadau, tanio odynau, darlithoedd, arddangosfeydd a chyfleoedd i werthu gwaith. Mae'n un o wyliau serameg mwyaf nodedig Ewrop, sy'n denu dros 1,000 o bobl - gan gynnwys artistiaid serameg proffesiynol, myfyrwyr, a nifer cynyddol o wneuthurwyr serameg amatur yn ogystal â phobl leol. Mae'r ŵyl wedi ymrwymo i gynaliadwyedd a hybu mynediad, ac yn cynnal prosiectau drwy gyfrwng y Gymraeg a phrosiectau allgyrch sy'n digwydd cyn yr ŵyl. Mae angen prynu tocynau ar gyfer y dangosiadau a'r darlithoedd, ond mae'r arddangosfeydd a'r digwyddiadau awyr agored yn rhad ac am ddim i ymwelwyr.
Gwobr Iris
Mae Gwobr Iris yn sefydliad ffilm LHDTC+ nodedig sydd â'i gartref yng Nghaerdydd. Mae'n fwyaf adnabyddus am Ŵyl Ffilm LHDTC+ Gwobr Iris a gynhelir bob blwyddyn. Hon yw'r wobr fwyaf yn y byd am ffilm fer, ac mae'n rhoi cyfle i'r enillydd gynhyrchu ffilm LHDTC+ newydd yng Nghymru. Yn ogystal â chynnal yr ŵyl, mae Iris yn cefnogi gwneuthurwyr ffilm drwy'r flwyddyn drwy bartneriaethau rhyngwladol, teithio rhaglenni a chynnal mentrau dysgu, gan rannu straeon cwiar pwerus gyda chynulleidfaoedd ledled y byd. Mae Iris yn hyrwyddo rhagoriaeth greadigol, cyfnewid diwylliannol a hybu lleisiau o'r ymylon, gan ddefnyddio ffilm i feithrin dealltwriaeth a chysylltiadau ar draws ffiniau.
Canolfan Gelfyddydau Pontio
Mae Canolfan Gelfyddydau Pontio yn ganolfan ddiwylliannol a chelfyddydol flaengar dan adain Prifysgol Bangor. Cenhadaeth Pontio yw creu rhaglen artistig o'r ansawdd uchaf sy'n arloesol, uchelgeisiol a pherthnasol i'w chymuned - o fyfyrwyr i drigolion lleol - a chreu cyfleoedd i artistiaid a chynulleidfaoedd brofi celfyddydau a diwylliant rhyngwladol o'r radd flaenaf. Mae'n cynnig un o raglenni celfyddydau aml-ffurf mwyaf nodedig Cymru, gan gyflwyno amrywiaeth o raglenni - o'r lleol i'r rhyngwladol - ar draws dawns, cerddoriaeth, ffilm, celf weledol, syrcas a theatr.
Theatr Iolo
Mae Theatr Iolo wedi bod ar flaen y gad wrth greu theatr i blant yng Nghymru ers bron i 40 mlynedd. Maent yn angerddol am feithrin a thanio dychymyg a chreadigrwydd meddyliau ifanc - i helpu plant ddeall y byd o'u cwmpas a ffeindio'u lle ynddo. Maent yn gweithio gyda'r artistiaid, ysgrifenwyr a phobl greadigol orau i greu gwaith theatr beiddgar a chofiadwy yn ogystal â chynnal gweithdai a gweithgareddau yn Saesneg a Chymraeg. Maen nhw'n teithio eu cynhyrchiadau i fabanod, plant a phobl ifanc ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.
Gŵyl Ffilm WOW
Cafodd Gŵyl Ffilm WOW (Wales One World Festival) ei sefydlu yn 2001. Hon yw gŵyl ffilm hynaf Cymru, sydd wedi ymrwymo i rannu straeon rhyngwladol o'r ymylon â chynulleidfaoedd yng Nghymru. Ers 25 mlynedd mae Gŵyl WOW wedi hybu a rhannu ffilmiau sy'n aml yn cael eu gadael ar ymylon y diwylliant ffilm prif ffrwd. Mae'r ŵyl wedi cyflwyno ffilmiau dogfen gwleidyddol taer, straeon personol pob math o bobl, a gweithiau sinematig dyfeisgar sy'n adlewyrchu realiti rhyfedd, rhyfeddol a chymleth ein byd. Dan arweiniad Annita Nitsaidou, mae Gŵyl WOW yn parhau i feithrin partneriaethau rhyngwladol sy'n creu llwybrau ar gyfer cyfnewid diwylliannol, gan sicrhau cyswllt rhwng cynulleidfaoedd yng Nghymru a datblygiadau ym maes sinema ryngwladol a gwaith gwneuthurwyr ffilm newydd ledled y byd.